Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru.
Mae'r gronfa eleni yn agored i:
Awdurdodau Lleol
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Diben y gronfa yw sicrhau gwelliannau mewn seilwaith sylfaenol ond hanfodol i ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth strategol ledled Cymru i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy ymhob agwedd ar eu harhosiad.
Ar gyfer y cylch ariannu hwn, rhaid i bob cais ganolbwyntio ar flaenoriaeth (1) isod ynghyd ag o leiaf un o’r 3 flaenoriaeth arall:
- Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy cynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
- Lleddfu mannau prysur mewn lleoliadau poblogaidd a chefnogi cyrchfannau ymwelwyr o safon uchel
- Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
- Gwella y cynnig i ymwelwyr drwy gynnig profiadau sy’n rhoi ymdeimlad o le, er enghraifft trwy ddarparu seilwaith ar gyfer digwyddiadau, cynlluniau dehongli, llwybrau cerdded a phrosiectau sy’n rhoi llwyfan i fwyd, treftadaeth, diwylliant a’r Gymraeg.
Lefel y cyllid sydd ar gael
Cronfa gyfalaf yw hon. Nid yw costau refeniw yn cael eu hystyried. Cyfanswm y grant ar gael yw £300,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oes isafswm grant.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn Datganiadau o Ddiddordeb: erbyn hanner dydd 22 Tachwedd 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyllid | Drupal (llyw.cymru)