BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Prif Swyddog Meddygol yn atgoffa pobl o’r cyngor i atal lledaeniad coronafeirws

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, yn atgoffa pobl i ddilyn camau syml i amddiffyn eu hunain rhag y risg o ddal COVID-19.

Mae'r rhain yn cynnwys cael eich brechu, gwisgo masgiau wyneb mewn mannau caeedig gorlawn a chymryd prawf llif unffordd os oes gennych symptomau.

Daw ei sylwadau wrth i achosion coronafeirws gynyddu unwaith eto yng Nghymru. Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod gan un person ym mhob 30 COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod profion llif unffordd ar gael am ddim tan ddiwedd mis Gorffennaf.

Yr wythnos nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei strategaeth frechu gyda manylion y dos atgyfnerthu nesaf yn yr hydref.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Y Prif Swyddog Meddygol yn atgoffa pobl o’r cyngor i atal lledaeniad coronafeirws | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.