BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Prif Weinidog yn cadarnhau camau i symud yn raddol i lefel rhybudd 1

Heddiw (dydd Gwener 4 Mehefin 2021), mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored ac y gellir cynnal gweithgareddau awyr agored mawr o ddydd Llun ymlaen, wrth i Gymru symud i lefel rhybudd 1.

Byddwn yn symud yn raddol i lefel rhybudd 1, gan ailddechrau digwyddiadau awyr agored gyntaf. Bydd y Gweinidogion yn adolygu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto, cyn 21 Mehefin 2021, i benderfynu a all digwyddiadau o dan do ailddechrau.

Bydd cam cyntaf y symud i lefel rhybudd 1 yn golygu bod y canlynol yn cael ei ganiatáu, o ddydd Llun 7 Mehefin 2021 ymlaen:

  • Gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus. 
  • Gall cynulliadau a digwyddiadau mwy wedi’u trefnu, fel cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon, fel grwpiau rhedeg wedi’u trefnu gael eu cynnal yn yr awyr agored, gyda hyd at 4,000 o bobl yn sefyll a 10,000 o bobl yn eistedd. Rhaid i holl drefnwyr digwyddiadau a gweithgareddau gynnal asesiad risg llawn a gosod mesurau i atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried newidiadau pellach i’r rheoliadau ar weithgareddau o dan do yn ddiweddarach yn y mis, os bydd amodau iechyd y cyhoedd yn caniatáu.

Maent yn cynnwys:

  • Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau. 
  • Cynyddu’r niferoedd a ganiateir ar gyfer digwyddiadau o dan do a chynulliadau wedi’u trefnu o dan do.
  • Agor canolfannau sglefrio iâ.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Yng ngoleuni'r newidiadau sy'n cael eu cyhoeddi heddiw, mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) wedi'i ymestyn o 7 Mehefin tan 14 Mehefin. 

Er mwyn cefnogi sectorau y mae'r newidiadau hyn yn effeithio ymhellach arnynt, yn benodol y lleoliadau priodas, digwyddiadau ac atyniadau hynny sydd â'r capasiti ar gyfer mwy na 30 o westeion, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sectorau yr effeithir arnynt i ychwanegu at y pecyn ERF presennol ar gyfer y cyfnod Mai a Mehefin.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen i chi gymryd camau pellach.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.