BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Strumble Head lighthouse at sunrise

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi nodi ei blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad i'r Senedd ar 17 Medi 2024, ar ddechrau sesiwn yr hydref, ymrwymodd y Prif Weinidog i wneud cynnydd ar draws pedwar maes allweddol:

  • 'Iechyd da' – lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl; a gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd menywod
  • Swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, gan sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill; a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru
  • Cyfle i bob teulu – hybu safonau mewn ysgolion a cholegau a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol, gan sicrhau bod pob teulu yn cael cyfle i lwyddo
  • Cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau; a thrwsio ein ffyrdd a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: "Ry'n ni wedi gwrando, ry'n ni wedi dysgu ac ry'n ni'n mynd i gyflawni" – y Prif Weinidog yn cyhoeddi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.