BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Rhaglen Cyber Essentials a Ariennir

people using a laptop

Gwahoddir sefydliadau bach o sectorau penodol yn y Deyrnas Unedig (DU) i gymryd rhan yn y Rhaglen Cyber Essentials a Ariennir (Funded Cyber Essentials Programme), dan arweiniad y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).

Mae’r cynnig ar gyfer 2024 bellach yn agored, a gall cwmnïau bach neu ficro sy’n gweithio ar ddatblygu technolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI) sylfaenol yn y DU wneud cais am gymorth.

Nod y rhaglen yw helpu cwmnïau a sefydliadau bach o fewn y sectorau sydd fwyaf mewn perygl o ymosodiadau seiber, gan ddarparu cymorth ymarferol am ddim i weithredu’r rheolaethau seiberddiogelwch sy’n atal y mathau mwyaf cyffredin o ymosodiadau.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, rhaid i gwmnïau fod yn:

  • fusnes micro neu fach (1 i 49 o weithwyr) sydd wedi’i gofrestru yn y DU ac sy’n gweithio ar ddatblygu technolegau AI sylfaenol

A rhaid iddynt fodloni’r meini prawf canlynol:

  • nid ydynt wedi cymryd rhan o’r blaen yn Rhaglen Cyber Essentials a Ariennir y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
  • nid oes ganddynt ardystiad Cyber Essentials Plus (CE+) ar hyn o bryd, nid ydynt wedi cael ardystiad CE+ ers mis Ionawr 2023, ac nid ydynt wrthi’n gwneud cais am ardystiad CE+ ar hyn o bryd

Os yw eich busnes neu sefydliad yn bodloni’r meini prawf uchod, ac rydych yn dymuno mynegi diddordeb yn y Rhaglen Cyber Essentials a Ariennir, ewch i wefan IASME, sy’n bartner yn y cynllun Cyber Essentials: Funded Programme - Iasme


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.