BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y rheol ‘aros yn lleol’ yn dod i ben yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod yr amgylchiadau yng Nghymru yn golygu bod modd i’r rheol ynghylch aros yn lleol ddod i ben ddydd Llun 6 Gorffennaf  2020 ond mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa pawb am bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd a pharchu’r lleoedd a’r cymunedau y maen nhw’n ymweld â nhw.

Felly, bydd angen i bobl wneud yn siŵr eu bod yn chwilio am wybodaeth ymlaen llaw cyn ymweld ag ardal, mynd i rywle arall os yw’n brysur yno a’r meysydd parcio’n llawn, sicrhau nad ydynt yn gadael sbwriel, a dangos parch at drigolion lleol.

Yn yr adolygiad nesaf ar 9 Gorffennaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried amryw o opsiynau penodol ar gyfer agor y sector lletygarwch (tafarndai a bwytai) yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf, llety gwyliau hunangynhwysol o 11 Gorffennaf a gwasanaethau trin gwallt drwy apwyntiad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.