Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi parhau i fonitro pensiynau gydol argyfwng y pandemig, gan sicrhau eu bod yn cefnogi cyflogwyr a’r rhai sy’n cynilo yn ystod y cyfnod anodd hwn. Efallai bod eich busnes wedi newid yn sgil COVID-19, ond nid yw eich cyfrifoldebau tuag at eich staff wedi newid.
Mae’n rhaid i chi:
- Barhau i asesu a rhoi pensiwn i staff cymwys
- Parhau i wneud y cyfraniadau cywir ar amser
- Cwblhau eich dyletswyddau ail-ymrestru a’ch datganiad cydymffurfiaeth
Os yw’ch staff yn gweithio neu ar ffyrlo, ni ddylent golli eu pensiwn.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau cyflogwyr y Rheolydd Pensiynau.