Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd chwe unigolyn yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill 2021 a bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill 2021.
Ddydd Llun 26 Ebrill 2021:
- Bydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn ailagor.
- Gall lletygarwch yn yr awyr agored yn ailddechrau, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch dan do yn parhau ar gau, ac eithrio ar gyfer cludfwyd.
- Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (ddydd Llun 3 Mai yn flaenorol).
- Gellir cynnal derbyniadau priodas awyr agored ar gyfer hyd at 30 o bobl (ddydd Llun 3 Mai yn flaenorol)
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i'r cyfyngiadau coronafeirws.
Newidiadau o ddydd Llun 3 Mai ymlaen:
-
Bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor
-
Bydd modd i bobl ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto gydag un aelwyd arall
-
Bydd camau llacio a oedd wedi’u cynllunio ar gyfer 17 Mai yn cael eu gweithredu yn gynt, sef ar 3 Mai, gan gynnwys:
-
Ailddechrau gweithgareddau o dan do ac o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant
-
Gweithgareddau o dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion (megis dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio)
-
Ailagor canolfannau cymunedol
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Cyfrifoldeb Llywodraeth newydd Cymru fydd cadarnhau’r trefniadau hynny yn yr adolygiad tair wythnos nesaf, a gynhelir ar 13 Mai – wythnos ar ôl yr etholiad. Fy asesiad i yw y bydd y sector lletygarwch – bariau, tafarndai, bwytai a chaffis – yn cael agor o dan do o 17 Mai ymlaen, ynghyd â phob llety arall i dwristiaid, ac adloniant ac atyniadau o dan do.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer ailagor lletygarwch (tafarndai, caffis, bwytai a lleoliadau trwyddedig) yn yr awyr agored, edrychwch ar y canllawiau UK Hospitality Guidance For Hospitality in Wales i gael gwybodaeth am gyngor diogel o ran COVID-19 ac asesiadau risg i fusnesau lletygarwch.