BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y system ardollau alcohol newydd: cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad

Yng Nghyllideb Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng 27 Hydref 2021 a 30 Ionawr 2022 yn gwahodd rhanddeiliaid i gyflwyno eu safbwyntiau ar y diwygiadau arfaethedig i'r system ardollau alcohol.

Nod yr Adolygiad o Ardollau Alcohol yw gwella'r system bresennol - drwy ei gwneud yn symlach, yn fwy rhesymegol yn economaidd ac yn llai beichus yn weinyddol i fusnesau a CThEF.

Ar 1 Awst 2023, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyfraddau ardollau alcohol newydd yn seiliedig ar gynnwys alcoholig cynhyrchion (yr ABV), tra'n rhewi cyfraddau ardollau alcohol o 1 Chwefror 2023. 

Mae'r system ardollau alcohol newydd hefyd yn cynnwys hawddfraint i'r diwydiant gwin am 18 mis cyntaf y system newydd, rhyddhad cynhyrchion drafft diwygiedig (meintiau cynhwysydd llai, i gefnogi busnesau bach yn y diwydiant lletygarwch), a rhyddhad cynhyrchydd bach (ymestyn y Rhyddhad Bragwyr Bach). 

Mae CThEF yn cynnal arolwg cynhyrchwyr bach i helpu rhoi mwy o ddealltwriaeth iddynt o economïau o raddfa ar draws y diwydiant. Bydd yr arolwg ar agor tan 21 Hydref 2022.

Dysgwch fwy am y newidiadau sydd ar y gweill i'r system ardollau alcohol ar GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.