BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y wlad gyntaf yn y DU – Senedd Cymru yn cymeradwyo deddfwriaeth 20mya

Heddiw (12 Gorffennaf 2022), Mae'r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn - gan helpu i achub bywydau, datblygu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd ac annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a llesol. 

Mae'r terfynau cyflymder arafach newydd yn cael eu treialu ar hyn o bryd mewn wyth cymuned ledled Cymru a chânt eu cyflwyno'n genedlaethol ym mis Medi 2023. 

Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, ond bydd yn gwneud terfyn diofyn o 20mya, gan adael i awdurdodau lleol, sy'n adnabod eu hardal orau, i gysylltu â'r gymuned leol i benderfynu pa ffyrdd ddylai aros ar 30mya. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Y wlad gyntaf yn y DU – Senedd Cymru yn cymeradwyo deddfwriaeth 20mya | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.