Rhestr wirio cyn gweithredu Diwygiadau Caffael.
Wrth i’r Bil Caffael ddod yn nes at gael Cydsyniad Brenhinol, bydd esblygiad deddfwriaeth caffael yn ei gwneud yn ofynnol i gydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru wneud pethau’n wahanol. Bydd y newidiadau sydd i ddod nid yn unig yn effeithio ar dimau caffael a masnachol, byddant yn ysgogi newid ymddygiadol a diwylliannol ar draws y sefydliad i wella’r ffordd y caiff contractau ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a gwaith eu caffael. Er mwyn helpu awdurdodau contractio ledled Cymru i baratoi ar gyfer y rheolau newydd, rydym wedi diweddaru’r rhestr wirio cyn gweithredu a gyhoeddwyd gennym fis Hydref y llynedd.
Mae’r rhestr wirio, y gellir ei lawrlwytho drwy'r adran Diwygio Caffael ar GwerthwchiGymru, yn nodi meysydd posibl y dylai awdurdodau contractio ddechrau meddwl amdanyn nhw nawr, er mwyn sicrhau eu bod yn barod ac yn gallu manteisio ar yr hyblygrwydd a’r tryloywder cynyddol sy’n gysylltiedig â’r rheolau newydd.
Cofiwch ymgyfarwyddo â'r cynnwys a'i rannu â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn eich sefydliad a'ch rhwydwaith ehangach.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolen ganlynol Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Broses Gaffael: Hydref 2023 | LLYW.CYMRU