BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi wedi clywed am Wasanaethau Arloesi rhad ac am ddim yr ICO?

Person using a laptop with AI

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cefnogi busnesau ac arloeswyr o bob sector, os ydyn nhw’n defnyddio gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd newydd a chreadigol.

Maen nhw’n cynnig cyngor arbenigol a chymorth wedi’i deilwra ar sut y gall deddfau diogelu data fod yn berthnasol i ddatblygiadau newydd, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnegau dysgu peirianyddol, a hynny’n rhad ac am ddim.

Dyluniwyd eu gwasanaeth Cyngor Arloesi i ymateb i'ch cwestiynau rheoleiddio o fewn 10-15 diwrnod, ac maen nhw hefyd yn cyhoeddi fersiynau dienw o'r cwestiynau ac o’r atebion er mwyn sicrhau y gall cynifer o sefydliadau ag sy’n bosibl elwa o'r cyngor. Dyma enghreifftiau o’r cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn hyd yma ynghyd â gwybodaeth am sut y gallwch gysylltu.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: ICO Innovation Services | ICO

ICO Innovation Services | ICO


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.