Gallai’r rhaglen Cyber Security Academic Startup Accelerator Programme (CyberASAP)
fod yn llwybr effeithiol i’ch helpu i ymchwilio i botensial y syniad o ran y farchnad. Dyma’r unig raglen garlam cyn datblygu syniad yn ecosystem seiber y DU, ac mae’n cefnogi a galluogi academyddion i drawsnewid gwaith ymchwil gwych yn arloesedd seiber rhagorol.
Gwnewch gais am hyd at £32,000 fesul prosiect er mwyn dod â’ch syniad seiberddiogelwch i’r farchnad. Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 2 Mawrth 2022.
Mae manylion y gystadleuaeth ariannu ar gyfer CyberASAP 2022/23 ar gael drwy fynd i’r ddolen ganlynol: Competition overview - Cyber security academic startup accelerator programme 2022-23: phase 1 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)