Mae allforwyr llwyddiannus yn haeddu cael eu cydnabod, a does dim ffordd well o wneud hynny na gwneud cais am ‘Wobr y Brenin am Fenter mewn Masnach Ryngwladol’.
Mae’r wobr hon yn rhan o gyfres ehangach o wobrau sy’n dathlu ac yn cydnabod perfformiad eithriadol gan fusnesau a leolir yn y DU ym meysydd masnach ryngwladol, arloesi, datblygu cynaliadwy a hyrwyddo cyfleoedd (drwy symudedd cymdeithasol).
Y Wobr Masnach Ryngwladol yw’r wobr uchaf ei pharch yn y DU, ac anogir allforwyr llwyddiannus o’r DU a Chymru i wneud cais ar gyfer 2024. Caiff unrhyw fusnes neu sefydliad yn y DU sydd â dau gyflogai neu fwy wneud cais – ac mae 90% o’r rhai sy’n derbyn gwobrau’n fusnesau bach a chanolig.
Mae manteision derbyn Gwobr y Brenin yn amlwg, gydag enillwyr blaenorol yn nodi cynnydd yn eu masnachu rhyngwladol a’u trosiant, cyfleoedd marchnata gwell a rhagor o gydnabyddiaeth yn fyd-eang. Yn ogystal mae derbynwyr y Wobr hon yn derbyn tystysgrif swyddogol ac yn cael dangos arwyddlun y wobr am hyd at bum mlynedd, yn ogystal â chael mynediad at rwydwaith ffyniannus o enillwyr blaenorol.
Sut i wneud cais a sut i gael rhagor o wybodaeth:
- Ar gyfer ymholiadau e-bost, cysylltwch â – kingsawards@beis.gov.uk
- Ar gyfer ymholiadau ffôn, cysylltwch â Llinell Gymorth Gwobrau’r Brenin ar 020 7 215 6880
- I ddarllen y meini prawf cymhwysedd ac i gael rhagor o wybodaeth am wneud cais ewch i – The King's Awards for Enterprise: About the awards - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae ceisiadau ar gyfer 2024 bellach ar agor, felly, dyma eich cyfle i ymuno â’r rhai o Gymru sydd wedi ennill Gwobr y Brenin yn y gorffennol.