BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n awyddus i fynd â’ch busnes ar-lein?

Mae Enterprise Nation yn cynnal sesiynau bŵt-camp i helpu busnesau i wefreiddio eu gwerthiant ac mae gwahoddiad i chi ymgeisio am le!

Yn y sesiynau bŵt-camp hyn sy’n para 5 diwrnod, bydd cyfle i 100 o fusnesau fanteisio ar ddysgu sut i fynd â’ch busnes ar-lein, gwerthu’ch cynhyrchion ar-lein, llunio gwefan, meistroli’r cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy!

Hefyd, byddwch yn elwa ar gyfarfod grŵp o entrepreneuriaid yn eich sector ac yn cael cyngor gan grŵp penodol o arbenigwyr busnes.

Chwiliwch am eich arbenigedd isod a gwnewch gais yn rhad ac am ddim am gyfle i gymryd rhan:

  • harddwch a lles – 3 - 7 Awst 2020, archebwch le yma
  • bwyd a diod – 24 - 28 Awst 2020, archebwch le yma
  • busnesau darparu gwasanaethau – 7 - 11 Medi 2020, archebwch le yma
  • cartref, hamdden, teclynnau a rhoddion – 21 - 25 Medi 2020, archebwch le yma
  • ffasiwn – 5 - 9 Hydref 2020, archebwch le yma

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.