BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi'n barod ar gyfer y Ddeddf Absenoldeb Gofalwr?

woman taking care of her disabled grandmother

Mae'n bwysig bod pob busnes yn barod i'r Ddeddf Absenoldeb Gofalwr ddod yn gyfraith.

Darganfyddwch sut y gall Gofalwyr Cymru eichhelpu i baratoi.

Derbyniodd Deddf Absenoldeb Gofalwyr 2023 Gydsyniad Brenhinol ym mis Mai 2023 a bydd y gyfraith yn cael ei deddfu yn 2024, ac erbyn hynny mae angen ichi fod yn barod i wneud newidiadau i’r ffordd yr ydych yn cynnig cymorth i bob gofalwr di-dâl yn eich gweithlu.

Bydd Carers UK a Gofalwyr Cymru yn darparu set annibynnol o adnoddau i gefnogi gweithredu, gan gynnwys sesiynau hyfforddi ychwanegol a gweminarau.

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen ein canllaw: Y Deddf Absenoldeb i Ofalwyr | Carers Wales (carersuk.org) neu cofrestrwch eich diddordeb i glywed mwy am y rhain isod yn employers@carerswales.org 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.