BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi'n barod i symud parseli busnes-i-fusnes o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon?

Business preparing parcels for shipping

Ar 19 Medi 2024, cadarnhaodd Llywodraeth y DU na fyddai'r trefniadau newydd o dan Fframwaith Windsor ar gyfer symud parseli a nwyddau a oedd i fod i ddod i rym o 30 Medi 2024 ymlaen yn dod i rym o'r dyddiad hwnnw ac y dylai busnesau fod yn gwbl barod ar eu cyfer erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae CThEF wedi diweddaru eu canllawiau sy'n ymdrin â'r trefniadau newydd ar gyfer parseli busnes-i-fusnes, ymhle y byddai'r rhain yn berthnasol a phwysigrwydd gwneud cais am awdurdodiad Cynllun Marchnad Fewnol y DU (UKIMS).

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:

Bydd CThEF yn cynnal gweminar ar 21 Tachwedd 2024 sy'n ymdrin â symudiadau parseli o dan Fframwaith Windsor. Gallwch gofrestru ar gyfer y weminar hon i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wybod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.