Ydych chi’n caru’r ardal rydych chi’n gweithio ynddi?
Hoffech chi chwarae rhan i ddiogelu ei dyfodol cynaliadwy a chyfrannu at y nod o wneud Yr Wyddfa yn fynydd di-blastig cyntaf y byd?
All eich busnes chi droi syniad yn realiti?
Yr Wyddfa yw mynydd prysuraf Cymru. Mae cannoedd o filoedd yn cerdded i’r copa eiconig bob blwyddyn. Mae sbwriel yn dod yn fygythiad gwirioneddol i ddyfodol cynaliadwy’r mynydd ac i fynd i’r afael â’r sefyllfa, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn arwain ymgyrch i wneud Yr Wyddfa yn fynydd di-blastig cyntaf y byd.
Gall eich busnes gyfrannu at droi’r syniad hwnnw’n realiti. Mae’r Awdurdod yn gwahodd busnesau yn Eryri i ymuno â’r daith gynaliadwyedd a dod yn fusnes achrededig Yr Wyddfa Di-blastig. Bydd y cynllun hygyrch ond uchelgeisiol hwn yn helpu eich busnes i lwyddo ar y daith di-blastig.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Busnesau Di-blastig | Snowdonia National Park (llyw.cymru)