BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi'n gweithio ym maes lletygarwch? Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb ac Hawliau Dynol angen eich help i atal aflonyddu rhywiol

Mae dros hanner y menywod a dwy ran o dair o bobl LHDT yn dweud eu bod yn profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Ond mae'r broblem yn arbennig o aciwt ym maes lletygarwch. Mae mwyafrif helaeth staff barrau a staff gweini yn dweud eu bod naill ai wedi profi neu wedi gweld ymddygiad rhywiol amhriodol. Gall hyn amrywio o gael eu holi a ydyn nhw 'ar y fwydlen' i ymosodiad rhywiol llawn.

Y llynedd, lansiodd y Comisiwn Cydraddoldeb ac Hawliau Dynol adnodd ymarferol, sef Preventing Sexual Harassment - UKHospitality, i atal ystyried aflonyddu staff lletygarwch fel 'rhan o'r swydd'.

Os ydych chi'n gweithio yn y sector lletygarwch, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb ac Hawliau Dynol eisiau clywed gennych chi am eich profiad, fel y gallant barhau i wella'r pecyn cymorth a datblygu mwy o adnoddau a fydd yn helpu i atal aflonyddu rhywiol yn y sector.

Gallwch lenwi’r arolwg i'r sector lletygarwch drwy glicio ar y ddolen ganlynol Preventing Sexual Harassment at Work Toolkit (office.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.