BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n gwybod sut i ddiogelu enw’ch busnes, eich cynhyrchion, cynnwys eich gwefan a mwy?

Eich eiddo deallusol yw un o’ch asedau busnes pwysicaf ac mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol am helpu busnesau ledled y DU i ddiogelu a manteisio i’r eithaf ar eu heiddo deallusol nhw.

Bydd gan bron bob buses ryw fath o eiddo deallusol, ac mae’n bwysig gwybod sut y gallwch ei ddiogelu i sicrhau nad oes unrhyw un arall yn eich copïo.

Mae eiddo deallusol yn rhywbeth rydych chi’n ei greu gan ddefnyddio’ch meddwl - er enghraifft, stori, dyfais, gwaith artistig neu symbol.

Mae pedwar math o hawliau eiddo deallusol yn y DU:

  • patentau
  • hawlfraint
  • nodau masnach
  • dyluniadau

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn cynnal gweminarau byr yn egluro pob hawl eiddo deallusol a’r broses o wneud cais.

Cynhelir gweminarau'r mis hwn ar 31 Mawrth 2022, gallwch gofrestru ar gyfer:

  • Nodau masnach, gwybodaeth am sut i wneud cais am nod masnach i enw’ch busnes ac am yr asedau eraill y gallwch roi nod masnach arnynt, fel logos, seiniau a lliwiau, cofrestrwch gan defnyddio’r ddolen ganlynol: Cofrestru (gotowebinar.com)
  • Patentau, gwybodaeth am sut i ddiogelu’ch dyfais a sut i gadw’ch creadigaeth yn gyfrinach tan iddi gael patent, cofrestrwch gan defnyddio’r ddolen ganlynol: Cofrestru (gotowebinar.com)

Os nad ydych chi ar gael, beth am fwrw golwg ar eu trosolwg Eiddo Deallusol a gweld sut i nodi, diogelu a manteisio i’r eithaf ar eich asedau eiddo deallusol gyda adnoddau cymorth ar-lein rhyngweithiol AM DDIM.

Mae’n cynnwys gweminarau, adnoddau dysgu ar-lein, astudiaethau achos a llawer mwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.