BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n gwybod sut i ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn y gwaith?

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles gweithwyr. Bydd deall arwyddion camddefnyddio (neu gam-drin) cyffuriau ac alcohol yn eich helpu i reoli’r risg iechyd a diogelwch yn eich gweithle.

Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau cam wrth gam i’ch helpu i ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn eich gweithle.

Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i ddatblygu polisi cyffuriau ac alcohol a’r hyn y gallwch chi ei wneud i gefnogi'ch gweithwyr.
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.