BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n gymwys i gael cymorth o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol?

Bydd sefydliadau yn y sector diwylliant a threftadaeth yn gallu gweld a ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, sy’n werth cyfanswm o £53 miliwn.

Gall y sefydliadau canlynol wneud cais am gyfran o'r gronfa:

  • lleoliadau cherddoriaeth
  • stiwdios recordio ac Ymarfer
  • sefydliadau ac atyniadau treftadaeth
  • amgueddfeydd a gwasanaethau archifau achrededig
  • llyfrgelloedd
  • digwyddiadau a’r rheini sy’n darparu cymorth technegol ar eu cyfer
  • sinemâu annibynnol
  • a’r sector cyhoeddi

Mae’r cyllid diweddaraf hwn yn rhan o becyn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector diwylliannol a’r sector celfyddydau wrth iddynt ddygymod â gostyngiad dramatig yn eu refeniw o ganlyniad i’r pandemig.

Mae elfen arall, wahanol o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol, sy’n werth £27.5 miliwn, yn cael ei darparu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi theatrau ac orielau. Lansiwyd y gronfa honno ar 17 Awst 2020 ac mae’r manylion i’w gweld ar wefan Cyngor y Celfyddydau.

Bydd y gwiriwr cymhwystra ar gael ar-lein dydd Mawrth, 1 Medi 2020 a bydd y gronfa ar agor i geisiadau yn yr wythnos sy'n dechrau 14 Medi 2020. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 2 Hydref 2020.

Ewch i wefan Llyw.Cymru am ragor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.