BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n rhedeg car a busnes?

Os nad ydych yn hawlio’r treuliau iawn ar gyfer eich busnes, fe allai effeithio ar faint o dreth rydych chi’n ei thalu.  

I gael mwy o wybodaeth am dreuliau busnes, ymunwch â gweminarau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). Gallwch ofyn cwestiynau yn ystod y weminar gan ddefnyddio’r blwch testun ar y sgrin. 

Treuliau busnes ar gyfer pobl hunangyflogedig

Bydd y weminar hon yn esbonio beth a ganiateir ac ni chaniateir, ac yn edrych ar rai o’r costau rhedeg dydd i ddydd mwyaf cyffredin a sut gallech arbed amser trwy ddefnyddio cyfraddau safonol ar gyfer milltiredd cerbydau, gweithio gartref a byw yn eich safle busnes. Cofrestrwch drwy ddilyn y ddolen ganlynol Cofrestru(gotowebinar.com)

Treuliau car ar gyfer pobl hunangyflogedig

Ydych chi’n defnyddio’ch car eich hun ar gyfer busnes? Bydd y weminar hon yn rhoi gwybod i chi am deithiau busnes, lwfansau cyfalaf, sut i gyfrifo treuliau costau wedi’u symleiddio a gwirioneddol, yn ogystal â phrydlesu car, a phrynu contract personol. Cofrestrwch drwy ddilyn y ddolen ganlynol Cofrestru (gotowebinar.com)

Gallwch hefyd wylio ein fideos byr ar sianel YouTube CThEF, gan gynnwys: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.