Mae DigiCymru yn wasanaeth yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Pa fath o gymorth sydd ar gael trwy DigiCymru?
- Trosolwg o offer digidol a’u budd
- Cefnogi sefydliadu i adeiladu, defnyddio, ac iteru offer eu hunain. Dangos ffyrdd y gallant adeiladu pethau eu hunain yn hytrach na phrynu i mewn i bethau eraill
- Cefnogi sefydliadau i ddatrys unrhyw broblemau technoleg
Pwy sy’n gallu cael mynediad iddo?
- Elusennau
- Sefydliadau dielw
- Mentrau Cymdeithasol (bydd rhaid cael Clo Asedau neu fod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol gyda chlo asedau)
- Grwpiau cymunedol neu wirfoddol (nid oes rhaid bod yn sefydliad cofrestredig)
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: DigiCymru - ProMo Cymru