BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych wedi ystyried y buddion o gyflogi unigolyn awtistig/ rhywun ag anabledd dysgu?

Ydych yn ddarparwr cyflogaeth a gefnogir, sy’n awyddus i wybod mwy am sut mae Covid-19 wedi cael effaith ar bobl awtistig / pobl ag anabledd dysgu?

Ydych chi eisiau gwybod pa gymorth sydd ar gael i gyflogwyr sydd â staff awtistig, neu ag anabledd dysgu?

Yna ymunwch â'r Gweminar Symposiwm Cyflogaeth am ddim a cynhelir ar 4 Rhagfyr 2020 , wedi’i hwyluso mewn partneriaeth â’r Tîm Awtistig Cenedlaethol (CLlLC), Prifysgol Abertawe, Canolfan Genedlaethol dros Iechyd Meddwl (Prifysgol Caerdydd) ac Anabledd Dysgu Cymru (LDW), ariennir gan Lywodraeth Cymru Gweminar Symposiwm Cyflogaeth.

I bwy mae’r gweminar cyflogaeth yma?

  • Cyflogwyr
  • Darparwyr cyflogaeth a gefnogir
  • Staff cyflogaeth allweddol e.e. DEA

Bydd cofrestru’n cau 30 Tachwedd 2020.

I gofrestru ar gyfer y gweminar ewch i'r wefan Eventbrite.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.