Os ydych chi’n fusnes mawr, canolig neu fach, gall y tywydd effeithio arnoch chi mewn unrhyw le ac ar unrhyw adeg.
Gall yr adnoddau canlynol eich helpu os ydy’r llifogydd wedi effeithio ar eich busnes chi:
- beth i’w wneud os ydy adeilad eich busnes wedi dioddef llifogydd
- adfer ar ôl llifogydd
- glanhau ar ôl Storm Dennis – beth i’w wneud gydag eitemau sydd wedi’u difrodi
- cysylltu â’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol – elusen sy’n cefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd
- Cyngor gan yr Ombwdsmon Ariannol - difrod storm
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa argyfwng i ddelio ag effaith uniongyrchol Storm Dennis a Storm Ciara ac maent yn gweithio efo cynghorau sir i gael darlun clir o raddfa’r difrod. Bydd hefyd cefnogaeth ar gyfer busnesau a strydoedd mawr sydd wedi cael eu heffeithio gan y stormydd. I gael cymorth ffoniwch Busnes Cymru 03000 6 03000.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llyw.cymru
Gall yr adnoddau canlynol eich helpu i fod yn ymwybodol o'r risgiau yn eich ardal leol:
- edrychwch ar ragolygon y tywydd yn eich ardal a sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r rybuddion tywydd diweddaraf
- cofrestrwch i gael y rhybuddion diweddaraf gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Gall yr adnoddau canlynol eich helpu i baratoi am lifogydd yn y dyfodol
- gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant addas, mae’r Association of British Insurers yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol, mae yswiriant eiddo masnachol yn hynod berthnasol
- darllen y cyfarwyddyd ar gyfer paratoi eich busnes ar gyfer llifogydd ac ar gyfer paratoi eich eiddo