BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ym mhle mae eich hen stampiau?

Rhaid i chi eu defnyddio erbyn 31 Ionawr 2023 neu eu cyfnewid am stampiau newydd.

Mae’r Post Brenhinol yn ychwanegu cod bar at eu stampiau arferol. Ar ôl 31 Ionawr 2023, ni fydd stampiau arferol heb god bar yn ddilys mwyach. Gallwch naill ai ddefnyddio’r stampiau hyn cyn y terfyn amser hwn, neu eu cyfnewid am y stampiau newydd â chod bar.

Y stampiau sy’n newid yw’r rhai a fydd yn gyfarwydd iawn i chi. Maent yn dangos proffil Ei Diweddar Fawrhydi’r Frenhines ar gefndir lliw plaen.

Gallwch gyfnewid eich stampiau heb god bar am y fersiwn newydd â chod bar drwy’r cynllun cyfnewid ‘Stamp Swap Out’. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Know where your old stamps are? | Royal Mail Group Ltd

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.