Er mwyn parhau i weithredu yn ystod COVID-19, mae llawer o fusnesau bwyd sefydledig wedi arallgyfeirio i ddanfon bwyd, gwasanaethau tecawê a gwerthu ar-lein. Cafwyd cynnydd hefyd yn y bobl sy’n coginio gartref ac yn gwerthu eu bwyd yn lleol neu ar-lein.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i fusnesau sefydledig a newydd i’w helpu i fynd i’r afael â heriau pandemig COVID-19.
Bydd ymgyrch ‘Yma i Helpu’ yn cynnig arweiniad ac yn hyrwyddo arferion gorau i helpu busnesau bwyd i gydymffurfio â gofynion hylendid a diogelwch bwyd a’r ffordd orau o ymateb i effeithiau COVID-19.
Dysgwch sut i:
- newid eich model busnes
- dechrau busnes bwyd yn y cartref
- ailagor eich busnes bwyd
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ASB.