BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymateb Llywodraeth Cymru i alwad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo am Dystiolaeth: Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder 2023

Datganiad Ysgrifenedig: Vaughan Gething, Weinidog yr Economi, Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

Ym mis Chwefror 2023, comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori ar Fudo i adolygu’r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder, fel rhan allweddol o bolisi cyffredinol Llywodraeth y DU ar gyfer mewnfudo.

Fel rhan benodol o’r adolygiad hwn, gofynnodd Llywodraeth y DU i’r Pwyllgor adolygu’r rhestr o alwedigaethau cymwys, gan ei gwneud yn glir na fyddai unrhyw alwedigaeth yn aros ar y rhestr am byth. Ar gyfer yr adolygiad hwn, cyhoeddwyd Cais am Dystiolaeth gan y Pwyllgor, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu’n helaeth â phartneriaid a rhanddeiliaid yng Nghymru wrth baratoi ei phapur tystiolaeth ac i annog sectorau a sefydliadau i gyflwyno eu tystiolaeth eu hunain. Mae papur tystiolaeth Llywodraeth Cymru ar gael yn: Ymateb Llywodraeth Cymru i alwad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo am Dystiolaeth: Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder 2023

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r Cais am Dystiolaeth a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yn berthnasol yn benodol yng nghyd-destun yr effeithiau sy’n gysylltiedig â Brexit ac effeithiau’r pandemig ar yr economi ehangach a’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus. Ers 2020, mae’r dirwedd fewnfudo wedi newid yn ddirfawr. Hefyd gwelwyd newid dramatig yn yr amgylchedd economaidd, ac mae mynediad at farchnad lafur yr UE wedi lleihau’n fawr. Rhaid i bolisïau mudo ymateb i’r amgylchiadau newydd hyn a’u goblygiadau ar gyfer busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, a chymunedau yng Nghymru.

Mae’n bwysig bod y system fewnfudo yn gallu ymateb i’r amrywiadau sy’n digwydd yn y farchnad lafur ddaearyddol, ac felly wrth ymateb i’r Cais am Dystiolaeth hwn mae Llywodraeth Cymru yn galw am gynnwys galwedigaethau a sectorau o flaenoriaeth mewn rhestr sy’n benodol ar gyfer Cymru, os nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y rhestr ar gyfer y DU gyfan.

Rydym yn gobeithio y bydd ymateb Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar ein tystiolaeth, ein dadansoddiad, ac adborth gan randdeiliaid, yn cael ei ystyried yn ofalus gan y Pwyllgor wrth iddo wneud argymhellion ar gyfer y rhestr ar lefel y DU a lefel Cymru. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.