Mae Ymchwil Gymhwysol ar gyfer Atebion Cylchol (ARCS) yn rhaglen cymorth Arloesi Cylchol a ddarperir gan Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe. Mae'n cynnig cymorth am ddim i fusnesau sydd wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, tan fis Rhagfyr 2024, mae wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Gan weithio ar sail prosiectau penodol, mae'r gefnogaeth a ddarperir wedi'i theilwra i faint, sector, gwybodaeth ac uchelgeisiau Economi Gylchol eich sefydliad. Mae amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys:
- Mapiau Ffordd / Cynlluniau Gweithredu Economi Gylchol
- Adolygiadau Llenyddiaeth a Dadansoddiad o'r Farchnad
- Dulliau Ymchwilio i Gwsmeriaid
- Cymorth i Lunio Cynnig
- Asesiadau Dylunio Cylchol
- Astudiaethau Dichonoldeb â Chymorth
- Ymyriadau Newid Ymddygiad
- Prototeipio Model Busnes Cylchol
- Mapio Systemau / Ecosystemau
- Meini Prawf Caffael / Cadwyn Gyflenwi Gylchol
- Dadansoddiad Llif Deunyddiau
- Asesiad Cylch Oes Cynnyrch
P'un a ydych am ddarganfod sut y gall eich busnes ddechrau arloesi gyda'r economi gylchol, neu os ydych am wneud y gorau o brosiect cylchol sy'n bodoli eisoes, gall tîm ARCS helpu: Introduction to ARCS circular innovation support | Eventbrite