Tâl Salwch Statudol (SSP) yw isafswm sylfaenol y tâl statudol y mae gan gyflogai hawl i’w gael am gyfnodau pan nad yw’n gallu gweithio oherwydd salwch. Mae rhywun yn gymwys i gael SSP o’r pedwerydd diwrnod y mae i ffwrdd yn sâl. Er mwyn bod yn gymwys i gael SSP, rhaid bod rhywun wedi’i ddosbarthu’n gyflogai ac ennill o leiaf £123 yr wythnos, ar gyfartaledd (y terfyn enillion is).
Mae’r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau yn cynnal ymchwiliad yn edrych ar effeithiolrwydd presennol SSP wrth gynorthwyo hawlwyr, a ph’un a ddylid diwygio SSP i alluogi derbynnydd i wella a dychwelyd i’r gwaith yn well.
Darllenwch Call for Evidence - Committees - UK Parliament
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener, 8 Rhagfyr 2023.