BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Ymdeimlad o bwrpas

Rhaid i'ch gweledigaeth ar gyfer llwyddiant gael ei hategu gan ymdeimlad cryf o bwrpas. Mae gosod y nodau cywir i gyrraedd eich cyrchfan yn gweithredu fel y cerrig camu i lwyddiant, wedi'u sbarduno gan eich angerdd am eich gweledigaeth. Ond eich synnwyr neu ymdeimlad o bwrpas fydd yn eich gyrru o'r naill nod i'r llall.

Os yw eich gweledigaeth yn adlewyrchu’ch angerdd a'r hyn rydych chi am ei gael o fywyd go iawn, a'ch bod wedi cysoni cyfres o nodau i'ch arwain yno, fe ddylech fod ag ymdeimlad cryf o bwrpas – a bydd gennych yr ewyllys i lwyddo. Pan fydd eich gweledigaeth yn seiliedig ar bwrpas neu ddiben sylfaenol, mae'n eich sbarduno i gyflawni'r hyn rydych am ei wneud mewn bywyd ac yn eich gyrfa. Mae hyn yn ei dro yn arwain at berfformiad gwell a chynt, gan eich symud yn nes at eich targed.

Mae pobl bwrpasol yn dangos hunanhyder, gan greu egni sy'n denu pobl, sefyllfaoedd ac amgylchiadau o'r un anian sy'n eu helpu i wireddu eu gweledigaeth.

Rhaid i chi neilltuo amser i fyfyrio ar eich pwrpas. Mae modd cyflawni pethau eithriadol pan fydd gennym ymdeimlad o bwrpas. Rydym yn aml yn gweld unigolion â doniau eithriadol - cerddorol, academaidd neu chwaraeon - nad ydyn nhw byth yn gwireddu eu llawn botensial. Y rheswm am hyn yw nad oes ganddyn nhw ymdeimlad o bwrpas.

Efallai nad oedd eu gweledigaeth am eu nod yn cyd-fynd â thrywydd eu doniau. Efallai eu bod wedi dilyn gweledigaeth pobl eraill yn hytrach na thorri eu cwys eu hunain. Ar y llaw arall, gall pobl sydd â gallu digon cyffredin sy'n gwybod yn union beth yw eu pwrpas gyflawni canlyniadau eithriadol.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.