BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn cyfrifoldebau Cyfarpar Diogelu Personol cyflogwyr i ‘weithwyr’ o fis Ebrill 2022

O fis Ebrill, bydd yn rhaid i gyflogwyr ddarparu cyfarpar diogelu personol (PPE) i weithwyr, yn ogystal â gweithwyr cyflogedig, a allai fod y agored i risgiau iechyd a diogelwch yn y gwaith.

Bydd diwygiad i Reoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992, yn dod i rym ar 6 Ebrill 2022.

Bydd angen i sefydliadau gynnal asesiad risg i bennu a oes angen cyfarpar diogelu personol ar weithwyr i gyflawni eu tasgau gwaith. Os oes angen PPE arnynt, bydd angen i’r cyflogwr gynnal asesiad addasrwydd PPE a darparu cyfarpar diogelu neu ddillad amddiffynnol iddynt am ddim, fel sy’n digwydd gyda gweithwyr cyflogedig.

Bydd sefydliadau hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw a storio unrhyw gyfarpar diogelu personol y maen nhw’n eu darparu, a darparu rhai newydd os oes angen yn lle hen rai neu rai coll. Y gweithwyr fydd yn gyfrifol am ddweud os ydyn nhw wedi colli neu ddifrodi eu cyfarpar diogelu personol.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau i helpu’r sefydliadau y gallai’r newidiadau effeithio arnynt. Mae hefyd wedi rhybuddio y gallai cyflogwyr gael eu herlyn neu wynebu hysbysiadau gorfodi os nad ydynt yn darparu PPE i’r rhai sydd â hawl i’w cael.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.