BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn Cynllun Benthyciadau Adfer

Bydd cynllun cymorth hanfodol sy'n cynnig benthyciadau a gefnogir gan lywodraeth y DU i fusnesau bach yn cael ei ymestyn am ddwy flynedd arall.

Mae'r Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS), a lansiwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2021 i helpu busnesau sy'n adfer o bandemig Covid-19, wedi cefnogi bron i 19,000 o fusnesau, gyda chefnogaeth gwerth £202,000 ar gyfartaledd.

Mae’r benthyciad mwyaf y gellir ei gael yn parhau i fod hyd at £2 miliwn. Fodd bynnag, gan gydnabod bod busnesau a'r DU yn fwy cyffredinol, bellach mewn sefyllfa well nag yr oedden nhw yn ystod y pandemig, efallai y bydd angen gwarant personol gan y benthyciwr bellach, yn unol ag arferion masnachol arferol. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.