BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru

Bydd dros 400,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn gymwys am daliad o £200 i helpu i gadw eu cartrefi'n gynnes yr hydref a'r gaeaf hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £90m yng Nghynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru i gydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar y rhai sy'n ei chael yn anodd talu eu biliau ynni.

Yn flaenorol, cafodd tua 166,000 o aelwydydd a oedd ar gredyd cynhwysol, yr hen fudd-daliadau a ddyfernid ar sail prawf modd a chredydau treth gwaith Daliad Tanwydd Gaeaf o £200 ar gyfer 2021/22.

Bydd ymestyn y cynllun cymorth tanwydd yn golygu y bydd bron i 200,000 yn fwy o aelwydydd sydd ar gredyd treth plant, credyd pensiwn, budd-dal pobl anabl, lwfans gofalwr, budd-dal cyfrannol a'r rhai sy'n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor i dalu eu bil treth gyngor bellach yn gymwys.

Mae'r cynllun yn cael ei ymestyn gan fod effaith yr argyfwng costau byw presennol yn fwy ar aelwydydd incwm isel, ac er mwyn caniatáu i fwy o aelwydydd sydd ar fudd-daliadau fod yn gymwys.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Ymestyn cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru i fwy na 400,000 o aelwydydd incwm isel yn dilyn buddsoddiad o £90m | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.