BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn llwybr fisa Gweithiwr Tymhorol tan ddiwedd 2024

Mae'r Swyddfa Gartref a DEFRA wedi cyhoeddi y bydd llwybr fisa'r Gweithiwr Tymhorol yn cael ei ymestyn tan ddiwedd 2024, sy'n caniatáu i weithwyr tramor ddod i'r DU am hyd at chwe mis i weithio yn y sector garddwriaeth.

Bydd 30,000 o fisâu ar gael yn 2022, ond bydd hyn yn cael ei adolygu’n barhaus gyda'r potensial i gynyddu gan 10,000 os bydd angen. 

Bydd nifer y fisâu yn dechrau lleihau o 2023.

Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.