BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn rhaglen iechyd meddwl Amser i Newid Cymru am dair blynedd

Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi heddiw (22 Chwefror 2022) y bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer Amser i Newid Cymru yn sicrhau bod modd ymestyn y rhaglen tan 2025.

Nod canolog Amser i Newid Cymru yw herio a newid agweddau ac ymddygiadau negyddol tuag at salwch meddwl. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: partneriaethau, cyflogwyr a’r gweithlu, iechyd a gofal cymdeithasol, a marchnata cymdeithasol.  Mae’r ymgyrch yn cael ei chyflwyno gan bartneriaeth rhwng dwy elusen flaenllaw yng Nghymru, sef Mind Cymru ac Adferiad Recovery.

Bydd y cyfnod newydd o waith yn canolbwyntio'n benodol ar weithio gyda chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a chyflogwyr mewn ardaloedd o dlodi ac amddifadedd. Yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae’r rhaglen wedi canolbwyntio ar gynyddu cysylltiadau â dynion drwy’r ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig, yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n cymryd rhan.

Un rhan allweddol o Amser i Newid Cymru yw cydweithio â chyflogwyr i greu diwylliannau sy’n fwy agored i drafod iechyd meddwl yn y gwaith, yn ogystal â rhoi adnoddau ymarferol iddynt gan gynnwys hyfforddiant a Phecyn Cymorth i Gyflogwyr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Ymestyn rhaglen iechyd meddwl Amser i Newid Cymru am dair blynedd | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.