BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws a ffyrlo – cadarnhau’r camau nesaf

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r diweddariadau nesaf:

Y diweddaraf am y Cynllyn Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws  

  • O 1 Gorffennaf 2020, gall cyflogwyr ddod â gweithwyr sydd wedi bod ar ffyrlo yn flaenorol yn ôl i’r gwaith am unrhyw gyfnod o amser neu unrhyw batrwm shifft, gan barhau i hawlio grant y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o hyd am eu horiau arferol nad ydyn nhw’n eu gweithio. Wrth hawlio’r grant ar gyfer oriau ffyrlo gweithwyr, bydd angen i gyflogwyr adrodd a hawlio am gyfnod o wythnos o leiaf.
  • Bydd y cynllun yn cau i ymgeiswyr newydd o 30 Mehefin 2020. O hynny allan, bydd cyflogwyr ddim ond yn gallu rhoi gweithwyr ar ffyrlo sydd wedi bod ar ffyrlo am gyfnod o 3 wythnos lawn cyn 30 Mehefin 2020.

  • Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad olaf y gall cyflogwr roi gweithiwr ar ffyrlo am y tro cyntaf fydd 10 Mehefin 2020, er mwyn i’r cyfnod ffyrlo 3 wythnos presennol gael ei gwblhau erbyn 30 Mehefin 2020. Bydd gan gyflogwyr hyd at 31 Gorffennaf i wneud unrhyw hawliadau mewn perthynas â’r cyfnod hyd at 30 Mehefin 2020.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau pellach ar ffyrlo hyblyg a sut dylai cyflogwyr gyfrifo hawliadau ar 12 Mehefin 2020

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Mae copi o’r ffeithlen ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar gael yma.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.