BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol hyd at fis Ebrill 2025

Bellach, mae gan drethdalwyr tan 5 Ebrill 2025 i lenwi bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2006, a allai gynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth – sef estyniad o bron i 2 flynedd – yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU.

Mae ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tan 2025 yn golygu bod gan bobl fwy o amser i ystyried yn llawn os yw talu cyfraniadau gwirfoddol yn briodol iddyn nhw, ac yn sicrhau nad oes angen i unrhyw un golli’r posibilrwydd o roi hwb i’w hawliadau Pensiwn y Wladwriaeth.

Estynnwyd y dyddiad cau gwreiddiol tan 31 Gorffennaf 2023 yn gynharach eleni.

Gall pobl ddarganfod sut i wirio eu cofnod Yswiriant Gwladol, cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, penderfynu os yw gwneud cyfraniad Yswiriant Gwladol gwirfoddol – voluntary National Insurance contribution – yn werth chweil iddyn nhw a’u pensiwn, a chael gwybodaeth sut i wneud taliad ar GOV.UK.

Gall trethdalwyr wirio eu cofnod Yswiriant Gwladol trwy eu Cyfrif Treth Personol
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.