BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgeisio am Raglen Fentoriaeth gyntaf Instagram yn y DU

Mae Small Business Britain yn gweithio mewn partneriaeth ag Instagram i gynnig cyfle i fusnesau bach elwa ar ei chynllun mentoriaeth cyntaf yn y DU – gan roi’r cyfle i’ch busnes chi ddysgu am greu cynnwys, marchnata a masnach gymdeithasol gan y crewyr gorau, sefydlwyr llwyddiannus ac arbenigwyr Instagram, i gyd wrth i ni nesáu at dymor siopa’r Nadolig.

Bydd y pum busnes bach llwyddiannus yn elwa ar:

  • Brynhawn o weithdy cynnwys gydag un o brif grewyr Instagram y DU, yn trafod cynghorion a thriciau creadigol, ac yn datblygu cynllun cynnwys tri mis ar gyfer Instagram.
  • Sesiwn goetsio rithiol awr o hyd gyda mentor busnes.
  • Tair sesiwn awr o hyd bob mis gydag arbenigwr cynnyrch Instagram, i drafod y ffordd orau o ddefnyddio Instagram ar gyfer Busnes.
  • Gwerth £1,000 o gredydau hysbysebu Instagram – i gefnogi eich uchelgeisiau twf.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Medi a bydd y cynllun mentoriaeth yn cael ei gynnal rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021. 

Am ragor o wybodaeth ewch i Small Business Britain.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.