BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgeisiwch am gyllid Horizon Ewrop

Europe from space

Mae ymgyrch newydd a lansiwyd i annog busnesau, academyddion ac ymchwilwyr yn y DU i ymgeisio am gyllid Horizon Ewrop, wedi dechrau. Horizon yw’r rhaglen fwyaf yn y byd o ran cydweithrediad ymchwil, ac mae grant cyfartalog Horizon yn werth £450,000 i fusnes yn y DU.

Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys cymorth ymarferol ar sut i ymgeisio, ar gael ar wefan Innovate UK ac mae UK Research and Innovation (UKRI) hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd sy’n helpu arwain busnesau ac ymchwilwyr trwy’r cyfleoedd a gynigir a’r broses ymgeisio.

Horizon Ewrop: calendr galwadau

Cyfleoedd byw ac ar y gweill o fewn rhaglenni gwaith Horizon Ewrop: Horizon Ewrop: calendr galwadau | LLYW.CYMRU

Mae gan Innovate UK amrywiaeth eang o gyfleoedd cyllid sy’n agored i fusnesau Cymru arloesi a buddsoddi mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I).

Gall Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i elwa ar y cyllid hwn a chefnogi’ch busnes ymhellach: CRISP23 – Cyfarfod Cymorth Cyllid Arloesi Ar-lein 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.