BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad ar ryddhad ardrethi gwelliannau - crynodeb o’r ymatebion

Shops in Aberystwyth

Datganiad Ysgrifenedig: Rebecca Evans MS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Heddiw (27 Medi 2023), rwyf yn cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar ar ryddhad ardrethi gwelliannau yng Nghymru. Parodd yr ymgynghoriad am 12 wythnos o 16 Mai tan 8 Awst 2023.

Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr i'r ymgynghoriad o blaid y cynigion i ddarparu rhyddhad gwelliannau ac fe wnaethant ddarparu ystod o sylwadau. Rwyf yn ddiolchgar am yr ymatebion manwl a chytbwys gan randdeiliaid. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau bod y cynigion yn diwallu’r bwriad polisi i gefnogi busnesau a thalwyr ardrethi eraill i wneud gwelliannau i'r eiddo y maent yn ei feddiannu i gefnogi eu busnesau a'u twf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i ddarparu ar gyfer rhyddhad gwelliannau, yn unol â'r cynigion, ac mae'n parhau i fod yn fwriad gennym y bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024. Mae hyn yn amodol ar hynt Bil Ardrethu Annomestig Llywodraeth y DU trwy ei gamau terfynol yn senedd y DU, a fydd yn cyflwyno'r darpariaethau y caiff y rhyddhad ei ddarparu oddi tanynt.

Mae'r crynodeb o'r ymatebion ar gael yn: Rhyddhad ardrethi gwelliannau


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.