BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad ar ymestyn y terfynau amser cyflwyno ar gyfer cofrestriadau pontio UK REACH

Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaeth Defra ymrwymo i archwilio trefniadau amgen ar gyfer cofrestriadau pontio er mwyn cefnogi busnesau cemegol, tra'n cynnal lefel uchel o ddiogelwch iechyd dynol ac amgylcheddol yn unol â'n hymrwymiadau rhyngwladol.  

Bydd yn cymryd amser i ddatblygu model cofrestriadau pontio amgen yn llawn ac, os penderfynir bwrw ymlaen i ddatblygu a phasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol. mae angen caniatáu amser hefyd i'r diwydiant gydymffurfio â threfniadau newydd. Felly, ymrwymodd Defra hefyd i ymgynghori ar ymestyn y terfynau amser ar gyfer darparu'r data cofrestru llawn.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar opsiynau i ymestyn y terfynau amser presennol hynny ar gyfer cofrestru. Mae hefyd yn ceisio barn ar ymestyn dyddiadau'r Asiantaeth (HSE) i gynnal gwiriadau cydymffurfio ar 20% o'r goflenni cofrestru.    

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 1 Medi 2022. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: Consultation on Extending the UK REACH Submission Deadlines - Defra - Citizen Space

Mae Defra hefyd wedi cyhoeddi datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Defra ar gysondeb y gwelliannau a gynigir yn yr ymgynghoriad gyda nodau deddfwriaeth UK REACH.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i: UK REACH: Article 1 consistency statement on extending submission deadlines for transitional registrations - GOV.UK (www.gov.uk)

 

 

 



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.