BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad: canllawiau technegol ar aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith

Woman being harassed - hand up to stay top

Mae'r gyfraith ar atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn newid.

Ar 26 Hydref 2024 bydd y Ddeddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 yn dod i rym. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno rhwymedigaeth gyfreithiol gadarnhaol newydd ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i ddiogelu eu gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol. Os bydd cyflogwr yn mynd yn groes i’r ddyletswydd ataliol, bydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn y cyflogwr. Bydd gan dribiwnlysoedd cyflogaeth hefyd y pŵer i gynyddu iawndal am aflonyddu rhywiol hyd at 25%.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi diweddaru’r canllaw hwn i gynnwys gwybodaeth am y ddyletswydd ataliol newydd fel bod cyflogwyr yn deall eu rhwymedigaethau newydd o dan gyfraith cydraddoldeb ac wedi gwneud mân newidiadau i weddill y canllawiau, er enghraifft eu diweddaru fel eu bod yn adlewyrchu cyfraith achosion ddiweddar berthnasol a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Diwygio) 2023.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bellach yn ymgynghori er mwyn gwneud yn siŵr bod yr adran newydd hon o'r canllawiau yn glir ac yn ddefnyddiol. Gellir dod o hyd i'r canllawiau presennol yma: Sexual harassment and harassment at work technical guidance.

Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Mawrth 6 Awst 2024: Consultation: Technical Guidance on Sexual Harassment and Harassment at Work (new section) (smartsurvey.co.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.