BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad cenedlaethol yn gofyn i’r cyhoedd helpu i greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl ar hyd a lled y wlad i ymuno ag ymgynghoriad cenedlaethol a fydd yn helpu i lunio ei strategaeth i wneud Cymru’n ddi-fwg erbyn 2030.

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a rhoi mwy o gymorth i helpu pobl i roi’r gorau i smygu yn allweddol i uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n ddi-fwg cyn diwedd y degawd.

Ar hyn o bryd, mae tua 14% o bobl yng Nghymru yn smygu ac mae cysylltiadau cryf rhwng smygu ac amddifadedd. Mae pobl mewn ardaloedd o amddifadedd yn fwy tebygol o smygu. 

Uchelgais strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli tybaco, Cymru Ddi-fwg, yw bod llai na 5% o’r boblogaeth yn smygu erbyn 2030.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2021 i helpu i lunio strategaeth tybaco hirdymor Cymru, ac mae ar agor tan 31 Mawrth 2022.

Mae felly lai na mis i fynd ac mae Llywodraeth Cymru yn galw ar gymunedau ledled y wlad i fanteisio ar y cyfle i ymuno â’r rhai sydd eisoes wedi mynegi eu barn ar greu dyfodol di-fwg ar gyfer Cymru.

I gael dweud eich dweud am sut y dylai Cymru greu cymdeithas ddi-fwg, ewch i llyw.cymru/ymgyngoriadau ac ymuno â’r ymgynghoriad
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.