![Houses in Cardiff](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/Untitled%20-%202024-04-10T143928.265.png.webp?itok=mHZYgPlK)
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu barn ar gynigion i ddiddymu rhyddhad anheddau lluosog y dreth trafodiadau tir (TTT) ac i ehangu un o ryddhadau presennol TTT i awdurdodau lleol yng Nghymru pan fyddant yn prynu eiddo at ddibenion tai cymdeithasol.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb hefyd mewn safbwyntiau ar yr opsiwn i ddiwygio'r rheolau sy'n gysylltiedig â phrynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad, ac opsiynau i adolygu neu ddiwygio rhyddhadau eraill TTT.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 19 Mai 2024: Newidiadau arfaethedig i ryddhadau o'r dreth trafodiadau tir | LLYW.CYMRU