BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad: Gwneud gweithio’n hyblyg yn drefn gyffredin

Mae’r ymgynghoriad hwn gan Lywodraeth y DU, sy’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban, yn ceisio safbwyntiau gan unigolion a busnesau ar gynigion i ddiwygio rheoliadau gweithio’n hyblyg.

Gall gweithio’n hyblyg fod yn werthfawr iawn i’r rhai sydd angen cydbwyso eu bywydau personol a’u bywydau gwaith, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Gall hefyd fod o fudd i gyflogwyr - gan ddenu mwy o ymgeiswyr a chynyddu cynhyrchiant a lefelau cymhelliant ymysg staff.

Yn 2003, daeth deddfwriaeth i rym a oedd yn rhoi’r hawl i rieni a gofalwyr penodol eraill wneud cais i weithio’n hyblyg, a oedd yn cynnwys lleoliad gwaith, oriau gwaith a phatrwm gweithio. Yn 2014, ehangwyd yr hawl i wneud cais i weithio’n hyblyg i bob gweithiwr oedd â 26 wythnos o wasanaeth parhaus.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio mynd gam ymhellach, a byddai ei gynigion yn effeithio ar gyflogwyr sy’n derbyn ceisiadau gweithio’n hyblyg ac unigolion sydd am newid trefniadau gwaith wedi’u contractio.

Mae’r ymgynghoriad yn dirwyn i ben am 11:45pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.