![man shopping in a supermarket](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/Untitled%20%2872%29.png.webp?itok=ExVyDdc-)
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau eich barn am y cynllun i gyflwyno’r gofyniad am labeli ‘nid ar gyfer yr UE’ ar gynhyrchion manwerthu ledled Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), ac mae’n deddfu i gadarnhau bod gofynion labelu ar gynhyrchion bwyd-amaeth yn cael eu cymhwyso ar draws Prydain Fawr, er mwyn sicrhau nad oes cymhelliad i fusnesau osgoi cynnig nwyddau ar farchnad Gogledd Iwerddon.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 15 Mawrth 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Marking of Retail Goods Consultation - Defra - Citizen Space