Mae Energy a Utility Skills yn gwahodd rhanddeiliaid y diwydiant i gymryd rhan yn eu hymgynghoriad ar-lein ar gyfer adolygiad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Cynnal a Chadw Carthffosiaeth a Draenio. Yn dilyn cyfres o weithdai diwydiant a drafftio’r gyfres ddiwygiedig, maent yn gofyn i randdeiliaid o’r diwydiant o bob rhan o’r DU adolygu a rhoi sylwadau ar yr NOS i sicrhau eu bod yn adlewyrchu arfer gorau’r diwydiant.
I gael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein a rhoi eich adborth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Ymgynghoriad Cynnal a Chadw Carthffosiaeth a Draenio Ar-lein
Daw'r ymgynghoriad i ben am 5pm ar dydd Gwener 29 Tachwedd 2024.
Ceir rhagor o fanylion yma: Help shape the national standards for Sewerage & Drainage Maintenance - EU Skills
Os hoffech siarad â rhywun yn Energy & Utility Skills am eu rhaglen adolygu NOS, anfonwch e-bost at standardsreview@euskills.co.uk