Mae Llywodraeth Cymru eisiau glywed eich barn am y cynlluniau i ddiwygio’r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer Dogfen Gymeradwy Rhan B (Diogelwch Tân).
Rydym yn cynnig:
- diwygio'r gwaharddiad ar ddefnyddio deunyddiau llosgadwy yn waliau allanol adeiladau neu arnynt
- pennu terfynau ar y defnydd o ddeunyddiau llosgadwy ar adeiladau penodol dros 11m
- cyflwyno System Rhybudd i Wacáu
- cyflwyno Blychau Gwybodaeth Diogel ym mhob bloc newydd o fflatiau sydd â llawr 11m uwchlaw lefel y ddaear neu'n uwch
- cyflwyno dulliau o adnabod lloriau ac arwyddion tywys
- gwneud diwygiad ynglŷn â chyfeiriadau at BS EN 13501 a BS 476
- cais am dystiolaeth ynglŷn â nifer y setiau o risiau mewn adeiladau a dileu pob cyfeiriad at ddosbarthiadau tân BS 476 yn Nogfen Gymeradwy B
Ymgynghoriad yn cau 9 Ionawr 2024.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Rhan B (Diogelwch Tân) o’r Rheoliadau Adeiladu | LLYW.CYMRU